Carwyn Jones AC
 Y Prif Weinidog

 

8 Hydref 2015

Etifeddiaeth y Pedwerydd Cynulliad: cais am ragor o wybodaeth

 

Annwyl Brif Weinidog,

Diolch am ddod i roi tystiolaeth ar 24 Medi 2015, wrth i ni edrych yn ôl ar ein gwaith ym maes y Gymraeg yn ystod y Pedwerydd Cynulliad. Yn dilyn y sesiwn, cytunodd y Pwyllgor y dylwn ysgrifennu atoch yn gofyn am ragor o wybodaeth am y pwyntiau a nodir isod.

Bwrw Mlaen

Clywsom yn ystod y drafodaeth ar flwyddyn gyntaf Bwrw Mlaen fod Llywodraeth Cymru yn gwario dros £2.25 miliwn ar ganolfannau a gofodau dysgu Cymraeg newydd. Fe ddywedoch y bydd gofyn i’r canolfannau gyflwyno adroddiad i’r Llywodraeth ar ôl deunaw mis i dderbyn yr arian hwn er mwyn i chi allu gwerthuso effaith y canolfannau ar y Gymraeg.

A allwch chi amlinellu sut y bwriadwch fesur llwyddiant y canolfannau y tu hwnt i ofyn am adroddiad ar ôl deunaw mis, gan gynnwys rhoi manylion unrhyw feincnodau, targedau neu ddulliau monitro eraill y byddwch yn eu defnyddio yn hyn o beth.

At hynny, a allwch nodi sut yn union y mae strategaeth ganolog y Llywodraeth ar gyfer y Gymraeg, ac yn arbennig y camau a gymerir trwy Bwrw Mlaen, yn rhoi sylw i wahanol anghenion ieithyddol gwahanol ardaloedd, yn enwedig ac ystyried yr heriau penodol y mae rhai o’r ardaloedd hynny’n eu hwynebu. 

Ac ystyried bod cynifer o fentrau gwahanol ar waith i gefnogi a hyrwyddo’r iaith, a allwch nodi hefyd pa gamau ydych chi’n eu cymryd yn ganolog i sicrhau bod gwaith yr holl fentrau hyn yn cael ei gyd-drefnu a’i gydlynu’n effeithiol.

Safonau yn ymwneud â’r Gymraeg

Roeddem yn falch o glywed eich bod yn bwriadu gosod y rheoliadau ar gyfer yr ail gylch o safonau o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 cyn diwedd eleni. Fodd bynnag, siom oedd clywed bod y rheoliadau ar gyfer y trydydd cylch o safonau yn annhebygol o fod yn barod cyn etholiad Mai 2016. Gan fod disgwyl i’r Comisiynydd anfon ei hadroddiad ar y trydydd ymchwiliad safonau atoch y mis hwn (fel y nodwyd yn eich papur), a allwch egluro pam na fydd y rheoliadau ar gyfer y trydydd cylch yn cael eu gwneud cyn mis Mai 2016.

O ran y trydydd cylch o safonau, mae gennym bryderon penodol ynghylch penderfyniad Comisiynydd y Gymraeg i hepgor nifer o gyrff o’i thrydydd ymchwiliad safonau, gan gynnwys gweithredwyr trenau. Tra mai mater i’r Comisiynydd yw penderfynu pa gyrff i’w cynnwys yn ei hymchwiliadau safonau, hoffem glywed eich barn am beidio â chynnwys y cyrff hyn, ac yn enwedig gweithredwyr trenau a chwmnïau telathrebu a chyfleustodau, yn y trydydd ymchwiliad. Hoffem wybod hefyd sut y mae peidio â chynnwys y cyrff hyn yn yr ymchwiliadau yn galluogi Llywodraeth Cymru i gwrdd â’r ymrwymiad ym mhwynt gweithredu 34 y strategaeth Iaith fyw: iaith byw.

At hynny, a allwch roi manylion inni ynghylch pryd y disgwyliwch i reoliadau gael eu gwneud a fydd yn gosod safonau ar sefydliadau fel cyflenwyr nwy a thrydan, darparwyr gwasanaethau telathrebu, a darparwyr gwasanaethau rheilffordd.

Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, fe awgrymoch y gallai cymhwysedd y Cynulliad i ddeddfu ei gwneud yn anodd deddfu mewn perthynas â sefydliadau’r sector preifat wrth osod safonau yn ymwneud â’r Gymraeg. A allwch ymhelaethu ar hyn, yn enwedig o gofio’r darpariaethau yn Atodlenni 7 ac 8 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

Cynllunio

Yn ei hadroddiad blynyddol ar gyfer 2014-15, mae Comisiynydd y Gymraeg yn croesawu’r darpariaethau yn Neddf Cynllunio (Cymru) 2015 sy’n ymwneud â’r Gymraeg. Fodd bynnag, mae’n pwysleisio, o ganlyniad i’r Ddeddf, bod angen adolygu Nodyn Cyngor Technegol 20 er mwyn sicrhau bod yr adrannau sy’n berthnasol i’r Gymraeg yn y Ddeddf yn cael eu rhoi ar waith mewn ffordd gyson.

 

 

 

 

Ar ôl cyhoeddi’r Canllaw Ymarferol sy’n cyd-fynd â Nodyn Cyngor Technegol 20 ym mis Mehefin 2014, a allwch roi gwybod pa waith sydd wedi cael ei wneud i fesur effaith Nodyn Cyngor Technegol 20 ac i ba raddau y mae hwnnw’n cael ei ddefnyddio gan awdurdodau lleol. Byddai’n dda gennym hefyd glywed eich ymateb i alwad y Comisiynydd am ddiweddaru Nodyn Cyngor Technegol 20.

At hyn, hoffem wybod a ydych yn disgwyl i awdurdodau lleol adolygu eu cynlluniau datblygu lleol yn sgil y gofyniad newydd yn adran 11 o Ddeddf 2015, ac os hynny, sut y byddwch yn sicrhau bod hyn yn digwydd. Hoffem glywed eich barn hefyd ynghylch i ba raddau y mae awdurdodau lleol yn barod am y newidiadau a ddaw i fod yn sgil adran 31 o’r Ddeddf, a’r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn ganolog i’w paratoi ar gyfer y newidiadau hyn.

Addysg

Adolygiad yr Athro Davies

Fel rhan o adroddiad yr Athro Davies yn 2013, amlygwyd yr angen i roi sylw brys i ddiffygion Cymraeg ail iaith yn ein hysgolion. Fe gyfeirioch at hyn yn eich papur i ni.

Fe ddywedoch y byddwch “yn mynd ati, mewn ymgynghoriad â’r sector addysg, i newid y drefn o ddysgu ac addysgu Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg”. Byddai’n dda gennym glywed mwy gennych ynghylch sut y bwriadwch wneud hyn, a pha bryd fydd hyn yn digwydd.

Dechrau’n Deg

Pan ymddangosoch gerbron y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog ym mis Mawrth 2015, fe ddywedoch fod darpariaeth Flying Start/Dechrau’n Deg trwy gyfrwng y Gymraeg yn ddigonol, ac nad oedd unrhyw reswm i gredu nad dyna’r sefyllfa. Byddai’n dda gennym wybod pa asesiadau sydd wedi cael eu gwneud o’r galw am ddarpariaeth Dechrau’n Deg trwy gyfrwng y Gymraeg, yn enwedig yn sgil pryderon a fynegwyd ynghylch hyn gan dystion i ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg. Hoffem i chi rannu’r data hwn â ni. At hyn, hoffem wybod pa gamau sy’n eu lle i sicrhau bod darpariaeth Dechrau’n Deg trwy gyfrwng y Gymraeg yn ddigonol i gwrdd â’r galw.

 

 

 

 

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Fe ddywedoch wrthym fod cynnydd wedi bod yn nifer y cyrsiau cyfrwng Cymraeg yn ein prifysgolion yn sgil y gwaith sy’n cael ei wneud gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Nodwn y llynedd fod £8.6 miliwn wedi’i roi o fewn cyllideb Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn 2015-16 ar gyfer y Coleg, ynghyd â £0.330 miliwn ar gyfer ysgoloriaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Hoffem pe gallech roi manylion i ni ynghylch cyllideb arfaethedig y Coleg yn 2016-17.

 

Yn gywir,

Christine Chapman AC / AM

Cadeirydd / Chair